| Dacw 'nghariad i lawr yn y berllan |
| Tw rym di ro rym di radl didl dal |
| O na bawn i yno fy hunan |
| Tw rym di ro rym di radl didl dal |
| Dacw’r tŷ, a dacw’r 'sgubor; |
| Dacw ddrws y beudy’n agor |
| Ffaldi radl didl dal, ffaldi radl didl dal |
| Tw rym di ro rym di radl didl dal |
| Dacw’r dderwen wych ganghennog |
| Tw rym di ro rym di radl didl dal |
| Golwg arni sydd dra serchog |
| Tw rym di ro rym di radl didl dal |
| Mi arhosaf yn ei chysgod |
| Nes daw 'nghariad i 'ngyfarfod |
| Ffaldi radl didl dal, ffaldi radl didl dal |
| Tw rym di ro rym di radl didl dal |
| Dacw’r delyn, dacw’r tannau |
| Tw rym di ro rym di radl didl dal |
| Beth wyf gwell, heb neb i’w chwarae |
| Tw rym di ro rym di radl didl dal |
| Dacw’r feinwen hoenus fanwl |
| Beth wyf well heb gael ei meddwl |
| Ffaldi radl didl dal, ffaldi radl didl dal |
| Tw rym di ro rym di radl didl dal |
| Werde Teil der Genius-Deutschland-Community! |