Текст пісні Caerffosiaeth - Gruff Rhys

Caerffosiaeth - Gruff Rhys
Інформація про пісню На цій сторінці ви можете ознайомитися з текстом пісні Caerffosiaeth , виконавця -Gruff Rhys
Пісня з альбому: Yr Atal Genhedlaeth
У жанрі:Инди
Дата випуску:06.02.2005
Мова пісні:Валлійська
Лейбл звукозапису:Rough Trade

Виберіть якою мовою перекладати:

Caerffosiaeth
Adeiladau mileniwm
Mewn ffug alminiwm
Goruwch-ystafelloedd
Am hanner miliwn o bunnoedd
Tyfwn adenydd
Tra’n yfed Ymennydd
Mewn tafarndai thema
A dim golwg o’r Wyddfa
Dw i’n byw a bod
Dw i’n byw a bod
Arnofio yn y bae
Yn y baw a’r dod
Coffi ewynnol, Cyflog derbyniol
Argae uffernol, Sgidiau ffasiynol
Saeri Rhyddion Yn rhedeg byrddion
Cyhoeddus, anweddus, Sefyllfa druenus
Dw i’n byw a bod, Dw i’n byw a bod
Arnofio yn y bae Yn y baw a’r dod
Dw i’n rhan o’r atal genhedlaeth
Ymfudwn o amaeth
O gefn gwlad i Gaerffosiaeth
O gefn gwlad i Gaerffosiaeth
Dw i’n byw a bod, Dw i’n byw a bod
Arnofio yn y bae, Yn y baw a’r dod

Поділіться текстом пісні:

Напишіть, що ви думаєте про текст пісні!

Інші пісні виконавця: